Llanilar

Eglwys Sant Ilar

Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Sant Ilar, Llanilar
Eglwys Ilar Sant yw un o’r rhai hynaf yng Ngogledd Ceredigion.
Opening times: 
Occasional

Prif nodwedd Eglwys Ilar Sant yw ei thŵr sgwâr canoloesol, sy’n cynnwys dwy gloch. Castiwyd un o’r clychau tua 1350. Dyddia’r to pren o’r Canol Oesoedd diweddar, ac mae’n un o’r ychydig rai sy wedi goroesi yn y sir. Mae’r bedyddfaen mawr carreg, o’r 13eg neu’r 14eg ganrif, o ddiddordeb arbennig, gan fod ganddo saith ochr banelog. Dim ond tri arall o’r fath sydd yng Nghymru gyfan. Ar ochr ogleddol y gangell mae ffenest bigfain fechan o’r 14eg ganrif, a adwaenir yn lleol fel ffenest y gwahangleifion. Saif carreg fawr yn y porth â phatrwm cwlwm ar un ochr iddi. Credir ei bod yn rhan o groes ac yn dyddio o’r 9fed neu ddechrau’r 10fed ganrif. Symudwyd y garreg, a adwaenir fel Carreg Maesmynach, o fryngaer yng Nghribyn, ger Llanbedr Pont Steffan, i Castle Hill, Llanilar, ac yna i borth yr eglwys. Gwnaethpwyd gwaith adfer helaeth ar yr eglwys gan R.K. Penson rhwng 1874 ac 1876, pan ychwanegwyd festri, elordy a thy glo.

Gellir cyfuno ymweliad â’r eglwys â hoe fach yn Nhafarn yr Hebog ar draws y ffordd.

How to get here: 
Mae pentre Llanilar yn gorwedd yn rhan isa Cwm Ystwyth a gellir ei gyrraedd o Aberystwyth ar yr A485 neu ar hyd Llwybr Beicio Ystwyth, sy’n mynd yn ei flaen i Dregaron drwy warchodfa natur enwog Cors Caron. Y cod post yw SY23 4SA.

Local businesses

Esgair Wen, self catering cottage - 3.8km away
Accommodation

Y Ffarmers Pub - 4.2km away
Food & Drink

Plas Antaron Hotel - 5.7km away
Accommodation, Food & Drink

The Halfway Inn - 5.7km away
Accommodation, Food & Drink

Tynllidiart Arms - 6.1km away
Food & Drink

Newmans Garden Centre - 7.2km away
Shopping

Gwesty Cymru Hotel & Restaurant - 7.9km away
Accommodation, Food & Drink

Gwesty'r Marine Hotel - 8.1km away
Accommodation, Food & Drink

The Druid Inn - 8.8km away
Accommodation, Food & Drink

Pennau Craft & Coffee Shop - 10.8km away
Food & Drink, Shopping

Pengwernydd Cottages - 10.9km away
Accommodation, Leisure & recreation

Hendre Gwyn Cottage and Guesthouse - 11.2km away
Accommodation

Erwbarfe Farm Caravan Park - 11.3km away
Accommodation

The Hafod Hotel - 11.6km away
Accommodation, Food & Drink

The Silver Mountain Experience - 12.0km away
Attraction, Food & Drink

The Woodlands Caravan & Camping Park - 12.3km away
Accommodation

Ffynnon Cadno Guest House - 13.4km away
Accommodation

Banceithin Farm and Holiday Cottages - 13.9km away
Accommodation

Glan Leri Holiday Cottage - 14.3km away
Accommodation

Black Lion Hotel - 14.5km away
Accommodation, Food & Drink

Animalarium Borth Zoo - 14.5km away
Attraction