Am y llwybr

Am y llwybr

Llwybr twristiaeth dreftadaeth yw Llefydd Llonydd sy’n adrodd straeon clwstwr o eglwysi a chapeli ar draws Gogledd Ceredigion.

Ewch ar daith drwy’r dirwedd i ddarganfod bywyd gwyllt a harddwch naturiol, hanes teuluol a straeon am ddigwyddiadau a gorchestion dynol, a hyn oll wedi’i addurno â phensaernïaeth, celf a chrefftwaith.

Nid llwybr ffydd mo Llefydd Llonydd yn yr ystyr traddodiadol. Ei ddiben yw dathlu treftadaeth pob eglwys a chapel mewn ffyrdd sy’n berthnasol i bawb, beth bynnag yw ei gredoau crefyddol. Mae’n annog ymwelwyr i brofi eglwysi a chapeli o safbwyntiau newydd – fel llefydd i fyfyrio a chael ysbrydoliaeth; fel cyfleoedd i ‘wneud rhywbeth gwahanol’ ac arafu’ch cam ac fel cyrchfannau lle gall rhywun dreulio amser arbennig yng nghanol prydferthwch a llonyddwch y dirwedd.

Cynnyrch prosiect Llwybr Treftadaeth Eglwysi Gogledd Ceredigion yw Llefydd Llonydd, sydd wedi’i gefnogi gan Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) gyda buddsoddiad gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Rheolir y prosiect gan Treftadaeth Llandre; mae’r gwaith yn cael ei wneud gan yr ymgynghorwyr Countryscape a Creu-ad.

Mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chymunedau lleol ym mhob un o’r cyrchfannau ar y llwybr – hebddyn nhw, fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl. Hoffem achub ar y cyfle yma i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi dod gyda ni ar y siwrnai hon – mae’ch brwdfrydedd diderfyn wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig!

Roger HaggerRoger Haggar, Rheolwr Prosiect, Treftadaeth Llandre

“Cyfle ffantastig yw Llefydd Llonydd i ddathlu’r mannau arbennig hyn sydd weithiau ynghudd er budd pobl leol ac ymwelwyr. Mae’n rhoi bywyd i straeon y bobl sydd wedi llunio’r dirwedd hon a’i chymunedau ar hyd y canrifoedd. Mae hefyd wedi darparu canolbwynt i’n cymunedau heddiw, gan ein hatgoffa am beth sy’n arbennig am y llefydd hyn a pham maent mor haeddiannol o gael eu darganfod”.