P’un ai cerddwr o fri ydych chi neu rywun sydd eisiau tro bach hamddenol yn unig, bron nad oes gormod o ddewis i chi o ran yr holl deithiau cerdded bendigedig sydd i’w cael yng nghyffiniau llwybr Llefydd Llonydd. Mae rhwydwaith y llwybrau cyhoeddus yn cynnig ffordd ragorol o grwydro Gogledd Ceredigion ac mae’r cefn gwlad amrywiol yn cynnig pob math o gyfleoedd, o droeon hamddenol ar yr arfordir i deithiau egnïol yn y mynyddoedd. Ceir hefyd lawer o lwybrau ceffyl a beicio.
Atyniad pwysig i gerddwyr yw Llwybr Arfordir Ceredigion – sydd ei hun yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru – ac mae’n darparu rhyw 60 milltir odidog o olygfeydd syfrdanol a bywyd gwyllt prin. Gallwch ymuno â’r llwybr ychydig y tu allan i Eglwys Sant Mathew, Y Borth a’i ddilyn naill ai tuag at Ynys-las yn y gogledd neu Aberteifi yn y de.
Mae troeon drwy’r wig yn ffordd wych o ddianc rhag pob dim a phrofi natur yn agos. Mae Canolfan Goedwigaeth Bwlch Nant yr Arian yn cynnig llwybrau hardd drwy goetiroedd (i’w tramwyo ar droed neu ar feic) gyda chyfleoedd i gael cip ar y Barcud Coch, aderyn ysglyfaethus enwocaf Gogledd Ceredigion.
Efallai yr hoffech hefyd ymweld â Gwarchodfa Natur yr RSPB yn Ynys-hir: paradwys i adarwyr gydag amrywiaeth o gynefinoedd a llwybrau sy’n darparu llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud drwy gydol y flwyddyn. Cwblhewch eich taith drwy ymweld ag Eglwys Sant Mihangel, Eglwys-fach, a fu unwaith yn gartref i’r bardd Cymreig enwog, R.S. Thomas.
Mae llawer o gyfleoedd eraill i fynd allan i grwydro tirweddau Llefydd Llonydd ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl. Ymhlith y cyrchfannau poblogaidd mae twyni tywod Gwarchodfa Natur Ynys-las, coetir hyfryd Hafod Uchtryd (gyda Chapel Siloam ac Eglwys yr Hafod gerllaw i edrych arnynt) a llwybr barddoniaeth Eglwys Sant Mihangel, Llandre.
Hefyd, peidiwch ag anghofio bod Gogledd Ceredigion yn gartref i Warchodfa Biosffer Dyfi: hafan i fywyd gwyllt sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei harddwch naturiol, treftadaeth ddiwylliannol a’i chymunedau â’u hagwedd gyfrifol at yr amgylchedd.
Felly am beth rydych chi’n aros? Gwisgwch eich sgidiau cerdded ac i ffwrdd â chi!
Ceir mwy o wybodaeth am lwybrau cerdded lleol ar y gwefannau canlynol: