Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion
Symbolau o gysegredigrwydd, diogelu, dysgeidiaeth a chymuned
Mae Eglwys Sant Mihangel yn edrych dros y môr nid nepell o’r promenâd yn Aberystwyth. Saif o fewn ardal gadwraeth sydd hefyd yn cynnwys adeilad rhestredig gradd un y Brifysgol o’r 19eg ganrif ac adfeilion y castell sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y Canol Oesoedd.
Eglwys drefol fawr yw hon a’r drydedd fan leiaf o gapeli ac eglwysi sydd wedi’u hadeiladu i ddarparu ar gyfer poblogaeth gynyddol a galwadau am ganolfan ysbrydol ar hyd y canrifoedd. Wedi’i hadeiladu ym 1890 o garreg Efrog yn null ‘Addurnedig’ y 14eg ganrif, mae’n gwrthgyferbynnu â dull 'neo-Gothig' yr Hen Goleg gerllaw.
Ewch yn dawel bach drwy’r drysau agored a’r argraff gyntaf yw un o egni a chroeso. Mae lle hael wedi’i neilltuo i siop ar gyfer swfenîrs a gwybodaeth. Mae’r tu mewn yn gynnes a llawn golau o’r ffenestri gwydr lliw mawr. Nodwedd anghyffredin yw’r baneri lliwgar wedi’u pwytho, sy’n cael eu newid yn ôl y tymor.