Eglwys Sant Ilar
Eglwys Ilar Sant yw un o’r rhai hynaf yng Ngogledd Ceredigion.
Prif nodwedd Eglwys Ilar Sant yw ei thŵr sgwâr canoloesol, sy’n cynnwys dwy gloch. Castiwyd un o’r clychau tua 1350. Dyddia’r to pren o’r Canol Oesoedd diweddar, ac mae’n un o’r ychydig rai sy wedi goroesi yn y sir. Mae’r bedyddfaen mawr carreg, o’r 13eg neu’r 14eg ganrif, o ddiddordeb arbennig, gan fod ganddo saith ochr banelog. Dim ond tri arall o’r fath sydd yng Nghymru gyfan. Ar ochr ogleddol y gangell mae ffenest bigfain fechan o’r 14eg ganrif, a adwaenir yn lleol fel ffenest y gwahangleifion. Saif carreg fawr yn y porth â phatrwm cwlwm ar un ochr iddi. Credir ei bod yn rhan o groes ac yn dyddio o’r 9fed neu ddechrau’r 10fed ganrif. Symudwyd y garreg, a adwaenir fel Carreg Maesmynach, o fryngaer yng Nghribyn, ger Llanbedr Pont Steffan, i Castle Hill, Llanilar, ac yna i borth yr eglwys. Gwnaethpwyd gwaith adfer helaeth ar yr eglwys gan R.K. Penson rhwng 1874 ac 1876, pan ychwanegwyd festri, elordy a thy glo.
Gellir cyfuno ymweliad â’r eglwys â hoe fach yn Nhafarn yr Hebog ar draws y ffordd.