Capel Ebeneser
Caledi gwaith yn cyd-fynd â gwobrau gweddi
Saif Capel Ebeneser yng nghanol y gymuned yn Ystumtuen mewn tirwedd lle mae creithiau’r diwydiant plwm yn dal i’w gweld. Gellir mynd ato o’r A44 tua 12 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth. Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ym 1808, hwn, fwy na thebyg, oedd y capel Methodistaidd Wesleaidd cyntaf yng Ngheredigion ac fe’i hadeiladwyd yn bennaf gan fwynwyr plwm o Gernyw oedd wedi dod i’r ardal i weithio.
Cafodd y capel ei ehangu rhwng 1838 a 1840 a’i ailadeiladu yn y pen draw ym 1871 gyda lle i 1,400 o bobl. Gellir disgrifio’r tu mewn i’r capel fel 'pensaernïaeth cydraddoldeb', lle mae pawb yn eistedd mewn seddau tebyg sy’n amgylchynu’r pulpud, gan greu lle i bethau ddigwydd yn y canol. Mae’r gofod hwnnw wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer dramâu’n ogystal â gweddïo ac mae rhai’n cofio perfformiadau bob pythefnos yn y 1950au. Ac ar adeg digwyddiadau mawr, mae Capel Ebeneser yn dal i atseinio i sŵn 'cymanfa ganu'.
O hyd, yn y capel gorffwys y tu allan i’r prif adeilad ceir elorau a arferai gael eu defnyddio i gludo cyrff pan fyddent yn eu gadael i orwedd yn yr adeilad bach hwn dros nos. Gellid cynnau tân fel y gallai perthnasau fod yn gynnes wrth gadw gwylnos.
Mae’r dirwedd o amgylch bellach yn frith o dai, ffermydd a hen fythynnod y mwynwyr, yn ogystal â thomenni rwbel o’r mwyngloddiau. Gadawodd y rhan fwyaf o’r mwynwyr oddeutu diwedd y 19eg ganrif pan ddechreuodd y mwyngloddiau gau. Fodd bynnag, mae rhai teuluoedd yn ffermio yma ers yr ail ganrif ar bymtheg ac mae’r busnes ffermio’n dal i fod yn bwysig.