Cymerwch ran

Cymerwch ran

Pobl leol sydd wrth wraidd Llefydd Llonydd.

Mae’r llwybr treftadaeth wedi’i ddatblygu gyda chyfranogiad cymunedau sydd wedi helpu i ddweud stori pob eglwys a chapel – nid hanes yr adeiladau’n unig, ond stori’r dirwedd o’u cwmpas a’r bobl sydd wedi’i siapio, ddoe a heddiw.

Mae’r prosiect yn barhaus a bydd yn aros yn agored i gymunedau lleol a busnesau twristiaeth gyfrannu iddo yn y dyfodol. Felly, os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni!

  • A hoffech rannu stori am eich lle? Efallai’ch bod am ddweud rhywbeth wrthon ni am eich eglwys neu’ch capel, neu rannu peth gwybodaeth am eich tirwedd leol a beth sydd ganddi i’w gynnig. Os felly, cysylltwch â ni – bydden ni wrth ein boddau clywed gennych!
  • A hoffech hyrwyddo digwyddiad rydych yn ei drefnu? Yna cysylltwch â ni ac fe ddangoswn i chi sut i ddefnyddio calendr digwyddiadau Llefydd Llonydd.
  • A hoffech hyrwyddo’ch busnes? Yna porwch Adran Farchnata’r wefan hon, lawrlwytho copi o’n Pecyn Cymorth hwylus a chreu proffil yng nghronfa ddata fusnesau Llefydd Llonydd.