Mae tirweddau Llefydd Llonydd yn gartref i lawer o atyniadau eraill i chi eu mwynhau yn ystod eich diwrnod allan.
Yn sefyll drws nesa i Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion yn Aberystwyth, mae adfeilion y castell enwog sy’n cynnig golygfeydd gogoneddus, llefydd i gael picnic a chilfachau a chuddfeydd niferus i’r plant gael hwyl.
Hefyd yn Aberystwyth mae Amgueddfa Ceredigion, gyda’i thu mewn syfrdanol a’i rhaglen fywiog o ddigwyddiadau; a hefyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n cynnwys arddangosfeydd di-dâl ynglŷn â hanes, celf, llyfrau a llawysgrifau prin Cymru. Os nad yw uchder yn eich poeni wedyn beth am i chi deithio ar Reilffordd y Graig Aberystwyth: un o’r rhai hiraf o’i bath yng ngwledydd Prydain, sy’n cynnig golygfeydd dirwystr dros y dre a’r dirwedd o gwmpas.
Fyddai’r un ymweliad â Gogledd Ceredigion yn gyflawn heb deithio i weld Rhaeadrau Pontarfynach, cyfres fendigedig o raeadrau yng ngheunant dramatig afon Rheidol, sy’n denu ymwelwyr ers y 18fed ganrif. O’r fan hon, taith fer yn unig yw hi at sawl un o’r cyrchfannau ar lwybr Llefydd Llonydd: eglwys dawel y Tri Sant yn Llantrisant; capel cywrain Siloam yng Nghwmystwyth; eglwys fawreddog a thlos Sant Mihangel a’r Holl Angylion yn Yr Hafod; yr ‘em fach’ o addoldy, Eglwys Ioan Fedyddiwr yn Ysbyty Ystwyth; capel hanesyddol Ebeneser yn Ystumtuen a safle sanctaidd Eglwys Ioan Fedyddiwr yn Ysbyty Cynfyn… pob un yn werth eu gweld!
O Bontarfynach, gallwch hefyd ddal trên i Aberystwyth (ac yn ôl) ar Reilffordd Dyffryn Rheidol, lein trên stêm boblogaidd drwy gefn gwlad ysblennydd gyda chyfleoedd i gael cip ar fyd natur ar hyd y daith.
Bydden ni’n cynghori unrhyw un sy’n awyddus i ymchwilio i hanes lleol i ymweld ag abaty enwog Ystrad Fflur ger Tregaron, sydd â chysylltiadau â sawl cyrchfan ar lwybr Llefydd Llonydd (sef Ysbyty Cynfyn, Ysbyty Ystwyth, Llanfihangel-y-Creuddyn a Llanbadarn Fawr).
Atyniad arall sydd â hanes cyfareddol yw Profiad y Mynydd Arian. Dysgwch am fywydau’r mwynwyr lleol a phrofi bwci-bos a braw’r Hafn Ddu. Tipyn o hwyl i’r teulu cyfan beth bynnag bo’r tywydd.
Hefyd yn werth ei gweld yw Ffwrnais Dyfi, ffwrnais chwyth o’r 18fed ganrif a fyddai’n cael ei thanio â siarcol. Tra byddwch chi yma, ewch ar daith fer i lawr y ffordd i weld eglwys hanesyddol Sant Mihangel, Eglwys-fach, a fu unwaith yn gartref i’r bardd Cymreig enwog, R.S.Thomas.
Paciwch eich camera, dewiswch rywle ar y map a chychwyn ar eich antur!