Bwyd a diodydd lleol blasus

Bwyd a diodydd lleol blasus

Mae yna dipyn o gaffis, tafarnau a bwytai ar hyd llwybr Llefydd Llonydd lle gallwch fwynhau cynnyrch lleol blasus.

Oriel a chaffi hynod ar y naw yw Tir a Môr yn y Borth, sy’n gwerthu celf a chrefft a wneir yn lleol yn ogystal â gweini coffi arbenigol, te, teisennau cartref a phrydau bwyd maethlon. O’r lolfa i fyny’r grisiau cewch dremio dros y gors ac os daw’r awen heibio, gallwch ymuno ag un o’r gweithgareddau creadigol niferus a arweinir gan artistiaid lleol. Lle perffaith i fwrw hoe wrth ymweld ag Eglwys Sant Mathew, ryw ddeg munud o waith cerdded i ffwrdd.

Saif tafarn enwog y Tynllidiart Arms yng Nghapel Bangor, sy’n gartref i Eglwys Dewi Sant. Sefydlwyd y dafarn ym 1688 ac yma ceir y bragdy lleiaf yn y byd yn ôl y gred! Erbyn heddiw, mae wir yn haeddu ei enw da o ran gweini bwyd a diod ragorol. Dyma le gwych i aros am luniaeth wrth deithio yn ôl ac ymlaen i gwm gogoneddus afon Rheidol.

Ceir bwyty lleol anhygoel arall ryw ychydig gamau o Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion yn Llanfihangel-y-Creuddyn. Mae tafarn a bwyty’r Ffarmers yn enwog am ei gwrw sy’n cael ei drin yn fedrus, bwyd tymhorol bendigedig ac awyrgylch croesawus. Yn eiddo i deulu ac yn cael ei dendio’n gariadus, dyma’r lle perffaith i’ch cynhesu’ch hun gyda phryd o fwyd iachus yn y gaeaf neu i dorri’ch syched a chael tamaid o fwyd wrth grwydro’r dirwedd ar ddiwrnod poeth yn yr haf.

Beth am dipyn o faldod? – Pryd o fwyd allan a chael blas ar y dirwedd!