Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
Yn olion traed llafur mynachaidd
Saif yr eglwys yn Ysbyty Cynfyn yn y mynyddoedd rhwng cyrchfan twristiaid Pontarfynach a phentre Ponterwyd. Mae sawl maen hir anferth yn y fynwent gron, sy’n awgrymu gwreiddiau cynnar a gorffennol cyn-Gristnogol hyd yn oed.
Adeiladwyd yr eglwys bresennol ar ddechrau’r 19eg ganrif, ond bu o leiaf un arall ar y safle hwn cyn hynny. Credir i’r cerrig ar gyfer yr eglwys hon ddod yn sgil dymchwel un oedd yn hŷn byth ar lecyn mwy anghysbell. Roedd Ysbyty Cynfyn yn arhosfan ar lwybr y mynachod o Lanbadarn, ger Aberystwyth, i fynachlog Sistersaidd Ystrad Fflur, tua 12 milltir i ffwrdd.
Mae’r bedd hynaf yn dyddio o 1793, oddeutu’r adeg, efallai, pan gafodd yr eglwys bresennol ei hadeiladu. Gwyddom iddi gael ei hailadeiladu neu’i hehangu ym 1827 oherwydd bod panel uwchben drws y fynedfa sy’n egluro i fwy o seddau gael eu hychwanegu a bod rhai o’r rhain yn ‘ddi-dâl’.
Mae’r fynwent yn arbennig o ddiddorol. Yn ôl pob sôn, byddai’n cael ei defnyddio ar un adeg i gynnal ffeiriau a gweithgareddau garw, megis ymladd ceiliogod a math cynnar o gêm bêl wyllt. Claddwyd pedwar baban - y pedrybledi cyntaf i’w cofnodi - yma ym 1856. Mae’r bedd, gyda’i chroes gwarts nodweddiadol, yn ein hatgoffa o’r peryglon arswydus i fywyd gan glefydau fel teiffoid a’r trasiedïau a ddaeth yn ei sgil.