Eglwys Sant Padarn









Dyma draddodiad hynafol sydd â phresenoldeb i bobl heddiw
Saif Eglwys Sant Padarn yn Llanbadarn Fawr ar gyrion Aberystwyth. Mae ei gwreiddiau’n ganoloesol, yn dyddio’n rhannol o 1257, ond yn tarddu o ddechrau’r cyfnod Cristnogol neu Geltaidd. Mae gan yr eglwys dŵr enfawr a phorth mynediad a dducpwyd efallai o Abaty Ystrad Fflur. Mae’n tremio dros y pentre.
Fel gyda llawer o eglwysi, mae naws warchodol, amddiffynnol hyd yn oed, i’r tu allan ond mae’r tu mewn yn trawsnewid y profiad drwy greu ymdeimlad â gofod a golau mawr. Mae’r ffenestri gwydr lliw’n cyfrannu i’r effaith hon.
Mae gan Eglwys Sant Padarn rôl bwysig yn hanes Cristnogaeth ac ysgolheictod yng Nghymru. Mae pobl yn teithio iddi ers y cyfnod mynachaidd pan oedd yn ganolfan ar gyfer ysgolheictod ac ysgrifennu. Mae arddangosfa arbennig yn yr eglwys sy’n adrodd hanes yr adeilad a’r cymeriadau hanesyddol sy’n gysylltiedig â hi.
Mae clychau Sant Padarn yn cael eu canu bob dydd Sul, sŵn na chlywir unman arall yn y rhan hon o arfordir gorllewin Cymru. Cafodd y gloch hynaf ei bwrw yng Nghaerloyw ym 1749. Yn gyntaf, roedd chwe chloch ac wedyn ym 1885, ychwanegwyd dwy arall atynt ac yn ystod gwaith adfer adeg y Mileniwm ddwy arall, gan olygu mai gan Eglwys Sant Padarn bellach y mae un o’r setiau clychau gorau yng Nghymru.

