Y môr, tywod a siopa

Y môr, tywod a siopa

Does dim byd sy’n curo diwrnod ar lan y môr! Mae Gogledd Ceredigion yn enwog am ei arfordir hardd sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob haf. Torheulwch, claddwch fysedd eich traed yn nhywod y traethau a mwynhau’r croeso cynnes yn y siopau, tafarnau a chaffis lleol.

Mae’r Borth yn gyrchfan i dwristiaid ers amser maith ac mae digon o adnoddau gan y pentre ar gyfer diwrnodau ar y traeth. Cewch fwynhau bwyd a lluniaeth yn un o’r caffis teuluol niferus. Crwydrwch dow-dow o gwmpas y siopau lleol. Arhoswch dros nos mewn lle gwely a brecwast ar fin y traeth neu gysgu o dan y sêr ar faes gwersylla a charafannau. Os ydych eisiau hoe fach o’r traeth yna anelwch am Eglwys Sant Mathew – ychydig o waith cerdded yn unig o’r pentre a lle gwych am bicnic yn yr haf.

Efallai yr hoffech hefyd ymweld ag Amgueddfa Gorsaf y Borth, trysorfa fach i’r rheini sy’n dwlu ar reilffyrdd. Neu beth am fynd â’ch teulu i’r Animalariwm, sy’n gartref i anifeiliaid sw ac anifeiliaid anwes egsotig o bedwar ban byd.

Lle mwy o faint sydd â mwy o fwrlwm yw Aberystwyth gyda’i thraeth poblogaidd, promenâd, harbwr a’i marina. Mae’r dref ei hun yn cynnig cyfleoedd gwych i siopa, gyda llawer o siopau annibynnol sy’n gwerthu popeth o gelf a chrefft i’r ffasiwn diweddaraf, ategolion i’r cartref, bwyd bendigedig a mwy. Beth am gael eich gwynt atoch a mwynhau ennyd fach dawel yn Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, dim ond tafliad carreg o’r hen gastell adfeiliedig sydd yn nodwedd dreftadaeth bwysig ei hun.

Cydiwch yn eich bwced a rhaw, paciwch fag siopa a mwynhau diwrnod allan traddodiadol!