Eglwys Llanfihangel
Eglwys sydd â chyfoeth natur o’i chwmpas
Mae Llanfihangel yn gorwedd ym mhen cwm tlws lle mae nant fechan yn rhedeg yn serth ar i lawr drwy’r coed. Mae’r fynwent a’r coetir yn llawn bioamrywiaeth ac mae troeon bach byr sy’n cyflwyno ymwelwyr i dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol a chreadigol y safle hwn.
Mae’r eglwys yn gysylltiedig â ffynnon sanctaidd y credir iddi fod â rhinweddau iachaol yn ogystal ag ywen hen iawn sydd oddeutu 2000 o flynyddoedd oed, ac felly mae’n ddigon posib mai safle paganaidd neu Gristnogol cynnar hŷn o lawer oedd yma.
Daw’r cofnod cyntaf am eglwys ar y safle o’r 11eg ganrif. Codwyd eglwys groesffurf yn y 18fed ganrif. Adeiladwyd Eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn, fel y mae i’w gweld heddiw, rhwng 1884 a 1886. Nodwedd anarferol yw porth y fynwent a adeiladwyd yn y 18fed neu’r 19eg ganrif.
Llanfihangel yw canolbwynt dehongli Llefydd Llonydd, prosiect Eglwysi a Chapeli Gogledd Ceredigion.