Capel Siloam
Adeilad hardd yn lleddfu poen llafur
Gorwedd Cwmystwyth ym mhen dyffryn poblog ar lôn fynydd gul, sy’n dilyn afon Ystwyth yn ôl i’w tharddiad ac ymlaen dros y mynydd agored nes iddi gyrraedd Cwm Elan. Roedd rhai o’r mwyngloddiau metel mwyaf yng Ngogledd Ceredigion yn y dyffryn hwn ac mae’r pentre a’r capel yn deillio o’r hanes y diwydiant hwn. Mae hefyd ar sawl llwybr cerdded, gan gynnwys Llwybr Glyndŵr.
Mae Capel Siloam yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Yn wreiddiol, cafodd ei godi ym 1805 a’i adfer ym 1835 ac eto ym 1870. Mae’r tu mewn i’r capel yn enghraifft o grefftwaith heb ei ail, gan amrywio o waith coed y corau a’r oriel i’r lampau olew pres gwreiddiol a boglynnau addurnol y nenfwd, sy’n dyllau awyru mewn gwirionedd.
Ffermio a mwyngloddio oedd galwedigaethau traddodiadol y gymuned yma. Cymraeg yw iaith y capel hwn ac mae wedi gwasanaethu cynulleidfa Gymraeg ei hiaith yn bennaf drwy gydol ei hanes. Mae’r capel bob amser wedi bod yn rhywle lle bydd y gymuned yn cyfarfod a lle bydd pobl ifainc yn dysgu darllen, canu a siarad yn gyhoeddus yn y Gymraeg.