Eglwys Santes Fair









Saif Ystrad Fflur mewn cwm dramatig dan drem cwr de-orllewinol Mynyddoedd Cambria ac yn agos i holl ogoniant Llynnoedd Teifi.
Hwn oedd safle un o’r Abatai Sistersaidd pwysicaf yng Nghymru a sefydlwyd ym 1164. Ar un adeg, cyrchfan llwybr pererindota ar draws y mynyddoedd oedd yr abaty ac erbyn heddiw mae llwybr pellter hir, Llwybr y Mynaich, yn dilyn y llwybr hwnnw.
Mae Eglwys y Santes Fair yn nythu wrth ymyl adfeilion yr abaty. Mae’r fynwent yn arbennig o ddiddorol ac ynddi ceir yr hyn y credir ei fod yn fedd i Dafydd ap Gwilym, bardd canoloesol enwocaf Cymru. Bu eglwys gynharach ar y safle hwn, ond mae’r adeilad presennol yn dyddio o 1815 a mwy na thebyg cafodd ei hadeiladu’n bennaf o gerrig a gymerwyd o adfeilion yr abaty. Wrth fynd i mewn drwy borth y fynwent, ceir yr olwg gyntaf ar yr eglwys drwy ganghennau ffawydden enfawr. Gofod petryal syml yw’r tu mewn, gyda chorau pren tywyll, oriel yn y pen gorllewinol, pulpud pren â’r dyddiad 1724 arno a ffenestri modern lliwgar.