Eglwys Sant Mihangel
Dathlu Creadigrwydd
Mae’r eglwys yn Eglwys-fach yn adeilad ar ffurf ‘neuadd’ sy’n dyddio’n bennaf o 1833. Rhan o eglwys flaenorol hŷn yw porth y fynwent o’r 18fed ganrif a adeiladwyd, fwy na thebyg, ym 1623. Cysylltir yr eglwys wreiddiol â chwedl ryfelgar sy’n sôn am y brenin Northymbraidd o’r 6ed ganrif, Edwin, ar gyrch yn y rhan hon o wledydd Prydain. Ar ôl ei lwyddiant mewn brwydr yng nghyffiniau Llandre ein hoes ni, honnir iddo sefydlu capel yn Eglwys-fach.
Bu R.S. Thomas, y bardd Cymreig o fri rhyngwladol, yn ficer yn Eglwys-fach rhwng 1955 a 1967 a’i bresenoldeb yntau yw’r cysylltiad â chreadigrwydd. Yn ddyn llym a di-drimins, penderfynodd R.S. Thomas, gyda chymorth gan ei artist o wraig, Mildred Elsi Eldridge, y dylai’r tu mewn i’r eglwys edrych yn ddramatig. Buont yn tynnu placiau oddi ar y waliau, yn cael gwared â gwaith pres ac aethant ati i baentio’r holl gorau o ddechrau’r 19eg ganrif yn ddu mat. Mae’r addurno trawiadol yma’n dal i’w weld y tu mewn i’r eglwys.
Awdur arall a fu’n braidd gyffwrdd â’r eglwys oedd y nofelydd dychanol Saesneg, Thomas Love Peacock (1785–1866) a briododd Jane Gruffydd o Faentwrog yn yr eglwys yn 1820.
Eglwys Sant Mihangel yw un o sawl cyrchfan cyffrous a saif o fewn llai na milltir i’w gilydd. Ar yr A487 yn Ffwrnais, ceir hen waith haearn (gyda phistyll trawiadol gerllaw), a thro bach byr yn unig yn y car neu ar droed o fan hyn y mae gwarchodfa’r RSPB yn Ynys-hir.