Eglwys Sant Mathew
Yn ddiogel rhag y môr: eglwys a godwyd ar sylfeini cadarn
Mae Eglwys Sant Mathew yn edrych dros ddyfroedd Bae Ceredigion. Mae wedi’i hadeiladu ar un o’r brigiadau creigiog a adawyd wrth i’r môr gilio filoedd lawer o flynyddoedd yn ôl.
Ar ddiwrnod clir, bydd y golygfeydd rhyfeddol draw i Aberdyfi a chopaon y Tarenni ac i mewn am y tir at odreon eangderau Mynyddoedd Cambria, yn cipio’ch anadl.
Adeiladwyd Eglwys Sant Mathew ym 1876 ac mae’i stori’n rhan o hynt a helynt yr hyn oedd yn digwydd ar hyd y rhan hon o arfordir gorllewin Cymru. Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd y Borth yn datblygu fel cyrchfan gwyliau. Ym 1863 cyrhaeddodd y rheilffordd a phan ffurfiwyd pwyllgor adeiladu’r eglwys ym 1874, roedd yn cynnwys sawl ‘…bonheddwr oedd yn gysylltiedig â’r rheilffordd’.
Mae’r eglwys yn croesawu ymwelwyr sy’n crwydro heibio iddi ar Lwybr Arfordir Cymru neu sydd eisiau mynd am dro bach gyda’r nos i ffwrdd o’r môr. Mae llawer o fân nodweddion diddorol i’w gweld y tu mewn.