Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion
Addoli dan olwg y boneddigion
Saif Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion neu Eglwys Newydd ymhlith coedydd pen uchaf dyffryn hardd afon Ystwyth ar gyrion Stad yr Hafod. Adeiladwyd yr eglwys hon i wasanaethu teulu’r Johnesiaid – oedd biau plasty’r Hafod gerllaw – a’r gymuned leol. Profiad hyfryd yw dod at Eglwys yr Hafod ar ôl cerdded yng nghoetiroedd dramatig yr Hafod. Bydd yn apelio at ymwelwyr sy’n chwilio am ‘em cudd’.
Cafodd yr eglwys bresennol, a gynlluniwyd gan James Wyatt yn 1803, ei difrodi’n ddifrifol gan dân ym 1932. Mae’r tu mewn i’r eglwys, a adferwyd gan gwmni Caroe, yn cael ei nodweddu gan rai cerfiadau pren hardd sy’n addurno’r corau a’r allor. Yma hefyd ceir gweddillion toredig cerflun gan yr enwog Syr Francis Chantrey (1781– 1825) sy’n coffáu Mariamne Johnes o’r Hafod.
Mae ceinder yr eglwys a’i thu mewn gosgeiddig yn cuddio gwir natur bywydau caled y rhan fwyaf o’r bobl a addolai yma dros y canrifoedd. Mae’r arolwg o’r fynwent yn dangos i ni fod o leiaf 150 o fwynwyr plwm a gweithwyr cysylltiedig wedi’u claddu yma. Perthyn i deuluoedd ffermwyr-denantiaid y mae llawer mwy o’r beddau ac mae pum o berchenogion y stad hefyd wedi’u claddu yma. Buasai bron pob un o’r bobl hyn yn siaradwr Cymraeg yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif a byddai llawer ohonynt wedi’u denu at yr achosion Anghydffurfiol. Er i’r boneddigion gadw llaw gadarn ar y rhai a ddibynnai arnynt gan ddisgwyl iddynt addoli yn Saesneg, yn ddwyieithog y mae’r gwasanaethau erbyn hyn.