Eglwys Sant Pedr









Mae Eglwys Sant Pedr, a gwblhawyd ym 1868, yn enghraifft wych o waith y Un o’r cyrchfannau sy’n peri tipyn o syndod ar lwybr Llefydd Llonydd yw Eglwys Sant Pedr.
Wrth nesáu o gyfeiriad Tal-y-bont ar hyd afon Leri, mae llethrau’r cwm yn ildio i goetir serth ac mae’r teimlad disgwylgar yn cynyddu nes, o’r diwedd, gyrraedd cymuned fach Bont-goch – neu a defnyddio ei hen enw, Elerch.
Bydd y rheini sy’n hoff o bensaernïaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth eu boddau’n darganfod adeiladau a gynlluniwyd gan dri phensaer Fictoraidd o fri. Gwaith George Edmund Street oedd yr hen ysgol, cynlluniwyd Eglwys Sant Pedr gan William Butterfield a’r cyn Ficerdy gan y pensaer o Gymro, John Pritchard. Hafan dawel yw’r pentre ei hun, ond bu unwaith yn ganolfan brysur i’r mwynwyr plwm a weithiai yn y bryniau y tu ôl iddo. Mae cerddwyr yn dod drwodd ar y Llwybr rhwng y Borth a Phontarfynach a daw beicwyr mynydd yma i gael mynediad i lwybrau beicio Syfydrin o Nant-yr-arian ac o gwmpas cronfa ddŵr Nant-y-moch.