Eglwys y Tri Sant
Eglwys y Gân – cael hyd i dangnefedd a lle i fyfyrio
Saif yr eglwys yn Llantrisant ar fryn bychan tua hanner milltir o bentre Llantrisant ei hun sy’n weddol agos i’r cyrchfan poblogaidd i dwristiaid ym Mhontarfynach. Fel mae enw’r pentre’n awgrymu, mae’r eglwys wedi’i chysegru i dri sant Cymreig pwysig, Dewi, Teilo a Phadarn.
Dyddia’r eglwys bresennol o’r 19eg ganrif a saif yn yr hyn sydd i’w gweld fel hen fynwent gron. Gallai hyn ddynodi gwreiddiau hynafol. Mae tair carreg fawr sydd bellach yn gorwedd ar y ddaear wedi cael eu dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif. Yn sicr, yn ôl yr hanes, bu’r safle’n gysylltiedig â’r llwybr y byddai’r mynaich yn ei ddilyn draw i Abaty Ystrad Fflur. Yn ddiweddarach, bu’r eglwys yn gwasanaethu cymuned o ffermwyr a mwynwyr plwm. Ym 1900, daeth saith deg o fwynwyr o’r Eidal i weithio ym mwynglawdd y Fron-goch gerllaw.
Ceir traddodiad cerddoriaeth eglwysig cryf yn Llantrisant gydag ymwelwyr yn cael eu cyfarch gan arysgrif sy’n darllen Cenwych i’r Arglwydd ac, yn wir, clywir emynau o hyd yn atseinio dros y mynyddoedd o gwmpas, gan ddathlu Duw, natur a gwaith dynol yn y dirwedd.