Eglwys yr Holl Seintiau
Cysylltiadau rhwng litwrgi a phensaernïaeth
Saif Eglwys yr Holl Seintiau ar ffordd dawel a rhaid mai dyma’r llwybr gwreiddiol a fyddai wedi cysylltu porthladdoedd bach Clarach, Wallog a’r Borth â phorthladd mawr Aberystwyth.
Daeth Isaac Williams, a aned yng Nghwmcynfelyn, y stad gyfagos, yn aelod o garfan ddadleuol Mudiad Rhydychen neu’r Mudiad Tractaraidd yn y 1830au a 40au. Bwriad y mudiad hwn oedd adfer i’r Eglwys Anglicanaidd rai o arferion Catholigiaeth a bu hyn yn dylanwadu ar y ffordd y byddent yn addoli ynghyd ag agweddau ar bensaernïaeth eglwysig. Codwyd llawer o eglwysi newydd mewn mannau lle y perswadiwyd y boneddigion lleol i ddilyn syniadau newydd Rhydychen.
Adeiladwyd Eglwys yr Holl Seintiau o gerrig lleol a gafodd eu cloddio, fwy na thebyg, gerllaw. Cynlluniwyd yr eglwys gan y pensaer o fri, Henry Jones Underwood, ac yn ddiweddarach ychwanegwyd tŵr a phorth yn ôl cynllun gan William Butterfield, prif bensaer Mudiad Rhydychen. Mae ynddi wydr lliw llachar, darllenfa y credir iddi gael ei cherfio o ddarn unigol o gollen Ffrengig a chyfres o ganwyllyrau y dywedir iddynt gael eu cyflwyno gan y Cardinal Henry Newman, arweinydd y Mudiad Tractaraidd.